Amdana i
Elin Angharad
Elin 'dwi, a dwi'n grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ers yn ifanc, ac wedi i mi astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, penderfynais gychwyn busnes fy hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.
Yn Ionawr 2018, cefais oriadau fy nghweithdy cyntaf a dechrau masnachu yn fy nhref enedigol ym Machynlleth, ac rwy'n hynod o falch o ddweud nad ydw'i wedi edrych yn ôl ers hynny!
Mae'r holl waith rwy'n ei gynhyrchu yn cael ei gwneud yn gwbl a llaw, ac felly rwy'n ddiolchgar ac yn werthfawrogol o bob cwsmer rwy'n cael y pleser o gyd-weithio a nhw.
Erbyn hyn mae gen i siop fy hun ar stryd fawr Machynlleth, ble dwi’n creu ac yn gwerthu fy nghwaith. Dwi hefyd yn creu gwaith comisiwn, gyrrwch neges i wneud apwyntiad.
Elin
37 Heol Maengwyn, Machynlleth


